Hysbysiad preifatrwydd
Mae'r hysbysiad hwn yn nodi sut y bydd y gwasanaeth Canfod Tendr (FTS) yn defnyddio eich data personol a'ch hawliau mewn perthynas â'r data hynny. Caiff ei lunio o dan Erthyglau 13 ac 14 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR).
Eich data
Diben
Gwasanaeth digidol sy'n cael ei redeg gan Swyddfa'r Cabinet yw'r gwasanaeth Canfod Tendr.
Diben y gwasanaeth yw cyhoeddi hysbysiadau caffael a gwybodaeth gysylltiedig fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024 a chyfundrefnau caffael perthnasol eraill, er enghraifft, Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
Mae hefyd yn ei gwneud yn haws cymryd rhan mewn caffaeliadau cyhoeddus o dan Ddeddf Caffael 2023 lle mae awdurdodau contractio yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr gofrestru â'r gwasanaeth a ddarperir gan Swyddfa'r Cabinet a chwblhau eu 'gwybodaeth am y cyflenwr'. Yna gall y cyflenwr rannu'r wybodaeth hon o wasanaeth Canfod Tendr Swyddfa'r Cabinet â'r awdurdod contractio perthnasol fel y gall ei phrosesu a'i hadolygu ar y cam gwneud cais.
Rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol er mwyn hwyluso:
- y broses o gofrestru ar y system ddigidol, gan gynnwys paru defnyddwyr One Login GOV.UK â chyfrifon sy'n bodoli eisoes a throsglwyddo gwybodaeth am gyfrifon sy'n bodoli eisoes
- cydymffurfiaeth â Rheoliadau Caffael 2024 a chyfundrefnau caffael perthnasol eraill gan awdurdod contractio sydd â chaffaeliad yr hoffai cyflenwr gymryd rhan ynddo
Y mathau o ddata personol y gellid eu casglu
Data personol pob defnyddiwr
Byddwn yn casglu data personol gan bob defnyddiwr er mwyn hwyluso'r broses o'u cofrestru ar y system ddigidol, fel sy'n ofynnol. Y data personol y byddwn yn eu casglu yw:
- enw
- cyfeiriad e-bost
Gall y data personol ychwanegol a gasglwn gan gyflenwyr a'r 'bobl gysylltiedig' hynny y mae'n ofynnol i'r cyflenwr roi gwybodaeth amdanynt gynnwys:
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- cenedligrwydd
- gwlad breswyl
- cysylltiadau ag endidau cyfreithiol
Byddwn yn casglu eich cyfeiriad e-bost er mwyn hwyluso'r gweithgareddau canlynol ar y gwasanaeth Canfod Tendr:
- rhoi gwybod i chi am newidiadau i hysbysiadau rydych yn eu dilyn
- eich hysbysu am hysbysiadau newydd sy'n cyfateb i'r meini prawf chwilio y gwnaethoch eu cadw
- eich hysbysu am ddyddiadau cau ar gyfer hysbysiadau rydych yn eu dilyn
- rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau i'r gwasanaeth
- eich gwahodd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil os ydych wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi
- lleihau nifer yr achosion pan fydd angen mewnbynnu'r wybodaeth hon eto o fewn y gwasanaeth
Y mathau o ddata sensitif y gellid eu casglu
Byddwn yn casglu data am euogfarnau troseddol cyflenwyr a'u 'pobl gysylltiedig', y mae'n ofynnol i'r cyflenwr roi gwybodaeth amdanynt o fewn yr adran gwybodaeth am y cyflenwr er mwyn cydymffurfio â Deddf Caffael 2023 a Rheoliadau Caffael 2024.
Y sail gyfreithlon dros brosesu
Y sail gyfreithlon dros brosesu'r data personol hyn yw Erthygl 6(1)(c) UK GDPR, sef bod angen prosesu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol a osodwyd arnom fel y rheolydd data. Yn yr achos hwn, mae rhwymedigaeth ar Weinidog y Goron (Swyddfa'r Cabinet) i ddarparu platfform ar-lein (gwasanaeth Canfod Tendr) er mwyn cyhoeddi gwybodaeth sy'n ofynnol gan Ddeddf Caffael 2023 a chasglu gwybodaeth am gyflenwyr a hwyluso'r broses o rannu'r wybodaeth honno fel sy'n ofynnol gan Reoliadau Caffael 2024.
Data personol am euogfarnau troseddol
Gallwn brosesu data personol am euogfarnau troseddol a throseddau'r cyflenwr a'r 'bobl gysylltiedig' hynny y mae'n ofynnol i'r cyflenwr roi gwybodaeth amdanynt, neu amheuon ynghylch trosedd a gyflawnwyd ganddynt, er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth â Deddf Gaffael 2023 fel sy'n ofynnol gan yr awdurdod contractio. Yna gellir defnyddio'r wybodaeth hon wedyn i benderfynu a oes unrhyw seiliau dros eithrio at ddibenion caffael cyhoeddus yn gymwys.
Mae'r data am euogfarnau troseddol y gallwn eu casglu am unigolion sy'n gysylltiedig â sefydliad y cyflenwr yn ymwneud â'r seiliau a nodir yn Atodlenni 6 a 7 o Ddeddf Caffael 2023. Y seiliau hyn yw:
- trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol a Lladdiad Corfforaethol 2007 (dynladdiad corfforaethol neu laddiad corfforaethol)
- trosedd a restrir yn adran 41 neu 42 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (troseddau terfysgaeth, a throseddau sydd â chysylltiad â therfysgaeth, y mae'r gofynion hysbysu o dan Ran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddynt), heblaw am drosedd o dan adran 54 o'r ddeddf honno
- trosedd o dan unrhyw rai o'r adrannau canlynol o Ddeddf Dwyn 1968
- (a) adrannau 1 i 13 (dwyn, lladrad, bwrgleriaeth)
- (b) adrannau 17 i 21 (twyll a blacmel)
- (c) adrannau 22 a 23 (troseddau'n ymwneud â nwyddau sydd wedi'u dwyn)
- (d) adran 24A (cadw credyd anghyfiawn yn anonest)
- (e) adran 25 (mynd yn barod i ddwyn)
- trosedd o dan unrhyw rai o'r adrannau canlynol o Ddeddf Dwyn (Gogledd Iwerddon) 1969 (c. 16 (N.I.))
- (a) adrannau 1 i 13 (dwyn, lladrad, bwrgleriaeth)
- (b) adrannau 17 i 20 (twyll a blacmel)
- (c) adrannau 21 a 22 (troseddau'n ymwneud â nwyddau sydd wedi'u dwyn)
- (d) adran 23A (cadw credyd anghyfiawn yn anonest)
- (e) adran 24 (mynd yn barod i ddwyn)
- trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Dwyn 1978 (gadael heb dalu)
- trosedd o dan adran 5 o Orchymyn Deddf Dwyn (Gogledd Iwerddon) 1978 (O.S. 1978/1407 (N.I. 23)) (gadael heb dalu)
- trosedd o dan Erthygl 172 neu 172A o Orchymyn Traffig Ffyrdd (Gogledd Iwerddon) 1981 (O.S. 1981/154 (N.I. 1)) (mynd â cherbyd heb awdurdod)
- trosedd o dan adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (lleidr wedi'i euogfarnu mewn meddiant)
- trosedd o dan adran 113 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (llwgrwobrwyo etholwyr)
- trosedd o dan adran 178 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (mynd â cherbyd modur heb awdurdod)
- trosedd o dan adran 327, 328 neu 329 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002 (troseddau gwyngalchu arian)
- trosedd o dan adran 2, 3, 4, 6 neu 7 o Ddeddf Twyll 2006 (troseddau twyll)
- trosedd o dan adran 993 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (masnachu drwy dwyll)
- trosedd o dan adran 1, 2 neu 6 o Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010 (troseddau llwgrwobrwyo)
- trosedd o dan adran 49 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (asp 13) (troseddau sy'n ymwneud ag eitemau i'w defnyddio ar gyfer twyll)
- trosedd o dan Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 (troseddau'n ymwneud ag asiantaethau cyflogi) heblaw am drosedd o dan adran 9(4)(b) o'r ddeddf honno
- trosedd o dan Orchymyn Cyflogaeth (Darpariaethau Amrywiol) (Gogledd Iwerddon) 1981 (O.S. 1981/839) (N.I. 20)) (troseddau'n ymwneud ag asiantaethau cyflogi) heblaw am drosedd o dan Erthygl 7B(11) o'r gorchymyn hwnnw
- trosedd o dan adran 31(1) o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 (gwrthod neu fethiant bwriadol i dalu'r isafswm cyflog cenedlaethol)
- trosedd o dan Ddeddf Meistri Gangiau (Trwyddedu) 2004 (troseddau'n ymwneud â meistri gangiau)
- trosedd o dan adran 1, 2, 4 neu 30 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (troseddau caethwasiaeth a masnachu mewn pobl)
- trosedd o dan adran 1, 4 neu 32 o Ddeddf Masnachu Mewn Pobl a Chamfanteisio (Yr Alban) 2015 (asp 12) (troseddau caethwasiaeth a masnachu mewn pobl)
- trosedd o dan adran 1, 2 neu 4 o Ddeddf Masnachu Mewn Pobl a Chamfanteisio (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015 (c. 2) (N.I.)), neu baragraff 16 o Atodlen 3 i'r ddeddf honno (troseddau caethwasiaeth a masnachu mewn pobl)
- trosedd o dan adran 27 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (methiant i gydymffurfio â gorchymyn gorfodi marchnad lafur)
- trosedd o dan adran 28 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (cytuno i fod yn rhan o droseddau cyfundrefnol difrifol)
- trosedd o dan adran 45 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 (cymryd rhan yng ngweithgareddau grwp troseddau cyfundrefnol)
- trosedd cyfraith gyffredin o dwyllo'r refeniw cyhoeddus
- trosedd o dan gyfraith unrhyw ran o'r DU sy'n cynnwys efadu treth drwy dwyll yn fwriadol, neu gymryd camau i geisio gwneud hynny. Mae 'Treth' yn golygu treth a osodir o dan gyfraith unrhyw ran o'r DU, gan gynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol o dan
- (a) Rhan 1 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992
- (b) Rhan 1 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992
- trosedd o dan adran 45 neu 46 o Ddeddf Arian Troseddol 2017 (methiant i atal camau i hwyluso efadu treth)
- trosedd o dan adran 188 o Ddeddf Menter 2002 (trosedd cartél)
- mewn perthynas â throsedd y cyfeirir ati fel arall yn Atodlen 6 Rhan 1 o Ddeddf Caffael 2023, unrhyw rai o'r troseddau canlynol
- (a) helpu, annog, cwnsela neu beri i'r drosedd gael ei chyflawni
- (b) yn yr Alban, helpu ac annog (art and part) i gyflawni'r drosedd
- (c) trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2007 (annog neu helpu trosedd) mewn perthynas â'r drosedd
- (d) ysgogi person i gyflawni'r drosedd; (e) ymdrechu neu gynllwynio i gyflawni'r drosedd
- trosedd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i'r DU a fyddai'n drosedd y cyfeirir ati fel arall yn Atodlen 6 Rhan 1 o Ddeddf Caffael 2023 os oedd yr ymddygiad sy'n rhan o'r drosedd honno wedi digwydd yn unrhyw ran o'r DU. At ddibenion y paragraff hwn, mae gweithred gosbadwy o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i'r DU yn cyfateb i drosedd o dan y gyfraith honno, ni waeth sut y'i disgrifir yn y gyfraith honno
- trosedd a achosodd, neu a allai fod wedi achosi, niwed sylweddol i'r amgylchedd
Gallwn gasglu'r data canlynol mewn perthynas ag amheuaeth neu honiadau bod trosedd wedi cael ei chyflawni, lle mae ymchwiliad yn cael ei gynnal neu wedi cael ei gynnal i ymddygiad a fyddai'n gyfystyr â throsedd:
- o dan adran 1, 2, 4, neu 30 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015
- o dan adran 1, 4 neu 32 Ddeddf Masnachu Mewn Pobl a Chamfanteisio (Yr Alban) 2015
- o dan adran 1, 2 neu 4 o Ddeddf Masnachu Mewn Pobl a Chamfanteisio (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015, neu baragraff 16 o Atodlen 3 i'r ddeddf honno
Mae hyn yn cynnwys data am ymchwiliadau i ymddygiad y tu allan i'r DU a fyddai, pe bai wedi digwydd yn y DU, yn cyfateb i unrhyw un o'r troseddau uchod.
Rydym yn prosesu data am euogfarnau troseddol ar y sail bod prosesu yn angenrheidiol am resymau budd cyhoeddus sylweddol er mwyn cyflawni swyddogaeth y goron, un o weinidogion y goron neu adran o lywodraeth (para 6, atodlen 1, Deddf Diogelu Data 2018).
Data dadansoddol
Rydym yn casglu data dadansoddol am y defnydd a wneir o'r gwasanaeth digidol. Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth ynglyn â sut rydych yn defnyddio'r gwasanaeth Canfod Tendr. Mwy o wybodaeth am gwcis
Mae Google Analytics yn casglu eich Cyfeiriad IP ac yn aseinio cwci i'ch dyfais sy'n cynnwys dynodydd unigryw a gynhyrchwyd ar hap a elwir yn ‘Client ID'. Dyma eich data personol. Pan fyddwch yn defnyddio'r un ddyfais i agor y gwasanaeth Canfod Tendr, byddwn yn defnyddio Google Analytics i olrhain y tudalennau y gwnaethoch ymweld â nhw ac unrhyw ddolenni y gwnaethoch eu dewis.
Ni fyddwn yn olrhain eich gweithgarwch yn y ffordd hon oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd. Gallwch reoli p'un a yw Google Analytics yn eich olrhain drwy addasu eich cwcis.
Ein sail gyfreithlon dros brosesu eich data dadansoddol yw cydsyniad (Erthygl 6 (1)(a) UK GDPR).
Derbynwyr eich data
Yn achos pob defnyddiwr, mae gan Swyddfa'r Cabinet fynediad at eich data yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Yn ogystal, os ydych yn gyflenwr, bydd gan unrhyw awdurdod contractio rydych wedi rhannu eich data ag ef er mwyn cymryd rhan mewn caffaeliad cyhoeddus, fynediad at eich data. Mae hyn yn cynnwys data unrhyw bobl gysylltiedig rydych chi fel y cyflenwr wedi'u cofnodi fel rhan o'r gwasanaeth. Gall y data hyn gael eu rhannu ag e-anfonwr dethol yr awdurdod contractio'.
Byddwn hefyd yn rhannu eich data â'n cyflenwyr pan fo angen. Mae'r rhain yn cynnwys ein darparwr lletya cwmwl, GOV.UK One Login (i ddilysu eich manylion), GovNotify (i anfon negeseuon e-bost atoch), ein darparwr dadansoddeg gwe (os ydych wedi cydsynio i gwcis), cyflenwr ein dangosfwrdd adrodd a'n timau cymorth technegol.
Os nad ydym wedi cael data personol gennych
Roeddem wedi cael eich data personol gan gyflenwyr y mae'n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth am 'bobl gysylltiedig' â'u sefydliad. Mae rhwymedigaeth ar y cyflenwr i roi gwybodaeth er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth â Deddf Caffael 2023 fel sy'n ofynnol gan yr awdurdod contractio. Yna gellir defnyddio'r wybodaeth hon wedyn i benderfynu a oes unrhyw seiliau dros eithrio at ddibenion caffael cyhoeddus yn gymwys.
Dolenni i wefannau eraill
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gymwys i'r gwasanaeth Canfod Tendr ond nid yw'n cwmpasu gwasanaethau llywodraeth eraill na gwefannau rydym yn darparu dolenni iddynt. Mae gan y gwasanaethau hyn, fel GOV.UK One Login, eu telerau ac amodau a'u hysbysiadau preifatrwydd eu hunain.
Os byddwch yn mynd i wefan arall o'r wefan hon, gallwch ddarllen ei hysbysiad preifatrwydd i wybod beth mae'n ei wneud â'ch gwybodaeth.
Os byddwn yn dod i'r gwasanaeth hwn o wefan eraill, efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch. Darllenwch hysbysiad preifatrwydd y wefan y daethoch ohoni i ddysgu mwy.
Cadw data
Mae'n ofynnol i ni gadw data a gyhoeddir ar y gwasanaeth Canfod Tendr er mwyn cyflawni rhwymedigaethau Deddf Caffael 2023, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni sefydlu a chynnal y platfform hwn. Os caiff contract ei ddyfarnu, mae'n ofynnol cyhoeddi'r data ar y platfform drwy gydol cyfnod y caffaeliad. Unwaith y bydd y contract wedi dod i ben, byddwn yn cadw'r wybodaeth am 7 mlynedd.
Byddwn yn adolygu eich cyfrif os na fyddwch wedi'i ddefnyddio am 5 mlynedd a byddwn yn cysylltu â chi i ofyn a hoffech i ni ddileu eich data ai peidio.
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl:
- i ofyn am wybodaeth am y ffordd y caiff eich data personol eu prosesu, a gofyn am gopi o'r data personol hynny
- i ofyn bod unrhyw anghywirdeb yn eich data personol yn cael ei gywiro ar unwaith
- i ofyn bod unrhyw ddata personol anghyflawn yn cael eu cwblhau, gan gynnwys drwy ddatganiad atodol
- i ofyn bod eich data personol yn cael eu dileu os nad oes cyfiawnhad mwyach dros eu prosesu
- o dan amgylchiadau arbennig (er enghraifft, lle ceir dadlau ynghylch cywirdeb) i ofyn bod trefniadau prosesu eich data personol yn cael eu cyfyngu
Trosglwyddiadau rhyngwladol
Caiff yr holl ddata personol a sensitif a gesglir gan y gwasanaeth Canfod Tendr eu rhannu ag Amazon Web Services (AWS) a'u storio yn y DU. Gall data a gesglir gan Google Analytics gael eu trosglwyddo y tu allan i'r [Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)]https://www.gov.uk/eu-eea) i'w prosesu.
Pan gaiff data eu prosesu yn yr UD, bydd angen i gyflenwyr gyrraedd y safonau ardystio a nodir yn y cytundeb pont data DU-UD. Mae hyn yn hwyluso llifoedd data personol i gwmnïau ardystiedig yn yr UD sydd wedi optio i mewn i Fframwaith Preifatrwydd Data yr UE-UD.
Cwynion
Os byddwch o'r farn bod eich data personol wedi cael eu camddefnyddio neu eu camdrafod, gallwch wneud cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n rheoleiddiwr annibynnol. Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
icocasework@ico.org.uk
Ffôn: 0303 123 1113
Ni fydd unrhyw gwyn a wneir i'r Comisiynydd Gwybodaeth yn amharu ar eich hawl i geisio iawn drwy'r llysoedd.
Manylion cyswllt
Y rheolydd data ar gyfer eich data personol yw Swyddfa'r Cabinet. Manylion cyswllt y rheolydd data yw:
Cabinet Office
70 Whitehall
London
SW1A 2AS
Ffôn: 020 7276 1234
Os bydd cyflenwr neu bersonau cysylltiedig cyflenwr wedi rhannu gwybodaeth â phrynwr er mwyn cynnig am gaffaeliad, mae Swyddfa'r Cabinet a'r prynwr hwnnw yn gyd-reolyddion data.
Cyfeiriad e-bost Swyddog Diogelu Data'r rheolydd data' yw:
Mae'r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor annibynnol ac yn monitro defnydd Swyddfa'r Cabinet o wybodaeth bersonol.